Connect/Exchange
Preswyliadau Cyfnewid/Ymchwil/Rhwydweithio i artistiaid sy’n gweithio ym myd y sgrin ym Mhrydain, i’w cynnal ledled y wlad
“Mae’r preswyliad hwn wedi newid fy ffordd o weithio.”
“Mae hi mor anodd cael gafael ar arian ar gyfer Ymchwil a Datblygu, roeddwn i’n teimlo’n ffodus iawn i gael bod yn rhan o’r rhaglen hon.”
Dan arweiniad Northern Ffilm + Media ac ar y cyd â Chapter (Caerdydd), Metal (Lerpwl), BALTIC + Prosiect NewBridge (NewcastleGateshead), a Stills (Caeredin), gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae’r cynllun hwn yn galluogi artistiaid i ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu cychwynnol ar brosiect neu ddarn o waith newydd.
- Trwy gyfrwng proses agored, rydym yn dewis artistiaid uchelgeisiol (ar ddechrau neu tua chanol eu gyrfaoedd) sydd yn awyddus ac yn agored i brofi syniadau cychwynnol. Cawn ein cyffroi gan brosiectau na ellid eu cynnal heb fframwaith Connect/Exchange.
- Mae’r ffaith bod gennym bartneriaid amrywiol yn golygu bod pob preswyliad yn unigryw – bydd pob lleoliad gwahanol yn cynnig preswyliad a phrofiad gwahanol. Rydym yn talu artistiaid i gymryd – ac mae yna gyllidebau ychwanegol ar gyfer teithio, llety ac offer, sy’n golygu y gallwn gefnogi artistiaid o ystod eang o gefndiroedd economaidd
- Mae yna ddwy ran i bob preswyliad – wythnos sefydlu, sy’n cynnig cyfle i gael arolwg o’r ddinas a’i chymuned artistig ac i drefnu cyfarfodydd cychwynnol; ac ail ran hyblyg ac agored fel y gall artistiaid weithio yn ôl eu hanghenion penodol. I rai mae hyn yn golygu cyfnod solet o amser; i eraill, mae diwrnod neu ddau bob pythefnos neu dair wythnos yn gweithio orau.
- Rydym yn awyddus i sicrhau bod artistiaid yn gwneud cysylltiadau proffesiynol trwy gyfrwng cyfarfodydd ffurfiol yn ogystal â thros beint neu goffi. Mae ein partneriaid yn trefnu ymweliadau stiwdio yng nghwmni curaduron, cyfarfodydd gyda chyrff rhanbarthol, a chiniawau rhwydweithio gyda’r gymuned artistig leol – pob un wedi’i fwriadu i gefnogi prosiect a gwaith yr artist preswyl.
- Rydym yn awyddus hefyd i gefnogi artistiaid wrth iddynt barhau â’u prosiectau ar ôl cyfnod y preswyliad. Trwy gydol y flwyddyn, down â’r holl artistiaid at ei gilydd am dridiau o trafodaethau gyda ffigyrau allweddol ym meysydd cynhyrchu, dosbarthu ac arddangos gweithiau’r ddelwedd symudol.
- Mae cymunedau artistig rhanbarthol ehangach yn elwa ar gyflwyniadau a digwyddiadau rhwydweithio, sy’n archwilio agweddau ar gynhyrchu, arddangos, dosbarthu a churadu gweithiau’r ddelwedd symudol.
- Mae artistiaid a phartneriaid yn rhan o’r broses werthuso – rydym am ddysgu gan bawb sy’n ymwneud â’n preswyliadau a datblygu’r cynllun yn y dyfodol yn unol â hynny.
“Roedd y siaradwyr yn dda iawn, yn hollol berthnasol.”
“Roedd y model dwy ran yn ffordd ardderchog o drefnu’r preswyliad.”
Image: Cecilia Stenbom, still from Connect/Exchange research project in partnership with Chapter, Cardiff