Techniques for feeling like a stranger / Technegau ar gyfer teimlo fel dieithryn

Posted on 23rd October 2017 by Anthony Shapland

Its a residency. I'm resident. I was already a resident. How can I be a 'residency' resident at home? I've said resident too much. Res-i-dent. Now it sounds like a toothpaste.

Preswyliad ydyw. Dw i'n preswylio. Roeddwn i eisoes yn preswylio. Sut alla i fod yn 'breswylydd' sy'n preswylio adre? Dw i wedi sôn gormod eisoes am 'breswylio'. Pres-wyl-io. Mae'n dechrau swnio'n rhyfedd.

Techniques for feeling like a stranger. First I change the studio ready for the organised studio visits. Jo comes, I know Jo, we go way back. Then Nick can’t come, we got dates mixed up. But he can come anytime, I know Nick. Then Karen. I once drank cocktails at a German film festival with Karen while making far too much noise about them being free. And Ali – I I last saw her at her surprise birthday party.

The situation is strange at first but these people know me well, and that makes it more difficult to perform, to be someone else. The conversations we have, after the strangeness, are more intense and more searching than I thought they would be. In dialogue about the works I articulate thoughts that until this moment have been floating ideas that I hadn’t quite discovered. Outside the studio, at events, socials, other exhibitions, our conversations have been the usual to and fro. How’s it going? Busy. Me too. Busy. There was no space to really talk about what we were doing, no gaps that allowed us to talk at any more than a cursory level. Within the studio the chat was free ranging, not always easy to hear – we talked about separating sound from its source and substituting it as a sort of fib, as a lie that we all want to maintain, we also talked cruising, silence, nostalgia, hope and –ism/ zeitgeist vs fashion or trend. We also gossiped a lot.

Technegau ar gyfer teimlo fel dieithryn. Yn y lle cyntaf, dw i’n newid fy stiwdio er mwyn gallu croesawu ymwelwyr. Mae Jo’n dod draw, dw i’n nabod Jo ers oes. Yna dyw Nick ddim yn gallu dod, roedd yna gawlach â’r dyddiadau. Ond gall e ddod unrhyw bryd, dw i’n ’nabod Nick. Karen wedyn. Fe fues i’n yfed coctêls mewn gŵyl ffilm Almaenaidd gyda Karen a chyffroi’n ormodol o weld eu bod nhw am ddim. Ac Ali – fe welais i Ali ddiwethaf yn ei pharti pen-blwydd syrpreis.

Mae’r sefyllfa’n rhyfedd ar y dechrau ond mae’r bobl hyn yn fy adnabod yn dda, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n anos perfformio, anos bod yn rhywun arall. Mae’r sgyrsiau ry’n ni’n eu cael, ar ôl y dieithrwch, yn fwy dwys nag y tybiais y byddent. Wrth drafod y gwaith, dw i’n mynegi meddyliau a fu tan hynny’n ddim ond syniadau annelwig nad oeddwn i cweit wedi dod o hyd iddyn nhw’n iawn. Y tu allan i’r stiwdio, mewn digwyddiadau cymdeithasol ac arddangosfeydd eraill, roedd ein sgwrs yn ddigon tebyg i’r hyn y bu erioed. Shwd wyt ti? Prysur. Fi hefyd. Prysur. Doedd yna ddim lle i siarad go iawn am yr hyn yr oeddem yn ei wneud, dim bylchau a fyddai’n ein galluogi ni i siarad ar lefel fwy difrifol na hynny. Ond yn y stiwdio roedd y sgwrsio’n rhydd a ddim wastad yn cynnwys yr hyn roeddwn i am ei glywed – fe soniom ni am wahanu seiniau o’u ffynonellau gwreiddiol ac am y ffaith bod hynny’n rhyw fath o gelwydd, math o gelwydd ry’n ni’n awyddus i’w gynnal bob un. Fe siaradon ni hefyd am griwsio, am tawelwch, am hwyl, am obaith ac am -aethau / zeitgeist a’u perthynas â ffasiwn neu dueddiadau. Roedd yna lawer o glecs hefyd.

Back to top