Through the glass is a circle of students of the music college that owns the plate glass, owns the chair I sit on and owns the cup I am holding. I paid for the coffee, in this transaction that is now mine. The students haven’t known each other long, they sit slightly apart. A lively conversation is happening. It was happening when they sat down. On my side of the glass I can see them but not hear them. Their voices are replaced by chattering and the constant white-noise of birdsong.
I am here to ask for help from the college, for permission to film during rehearsals.
The students are still talking. Around the table they each glance at one girl before speaking. One boy talks more than the others and is confident. Another girl is leaning forward and wants to speak but none of the others look at her and she takes repeated gulps at the air in front of her. They eventually start to get up to leave; the girl still leaning toward them. She resigns herself to not speaking and gets up with them.
I think about the gaps that we leave for other people. The spaces that we let happen for dialogue to start. The physical space we leave when we step aside for another to pass. Conversation is cooperation and relies on people taking turns, leaving spaces – giving spaces – to other people. I realise I have been staring through my own reflection for too long and I go in the meeting for the second transaction.
Y tu ôl i’r gwydr, mae yna grŵp o fyfyrwyr – maent yn perthyn i’r coleg cerddoriaeth, sydd hefyd yn berchen ar y gwydr uchel, y gadair dw i’n eistedd arni a’r cwpan yn fy nwylo. Fe dalais i am y coffi, felly mae’r trosglwyddiad hwnnw’n eiddo i mi. Nid yw’r myfyrwyr wedi adnabod ei gilydd yn hir – maent yn eistedd ychydig ar wahân i’w gilydd. Mae hi’n sgwrs fywiog rhyngddynt. Roedd eisoes ar ei anterth pan eisteddon nhw i lawr. O f’ochr i i’r ffenest, gallaf weld y myfyrwyr ond alla i ddim clywed eu geiriau. Caiff eu lleisiau eu disodli gan sgwrsio’r drudwy a’u sŵn gwyn cyson.
Dw i wedi dod i ofyn am gymorth gan y coleg, am ganiatâd i ffilmio ymarferion.
Mae’r myfyrwyr yn dal i siarad. O gwmpas y bwrdd maent yn taro golwg ar un ferch benodol cyn siarad. Mae un bachgen hyderus fel petai’n siarad mwy na’r lleill. Mae merch arall yn pwyso ymlaen fel petai’n dymuno siarad ond dyw’r gweddill ddim yn edrych arni ac mae hi’n llyncu awyr. O’r diwedd, maent yn paratoi i adael – mae’r ferch yn dal i bwyso ymlaen tuag atynt. Ond mae hi’n derbyn nawr na chaiff ddweud ei dweud ac mae’n codi i adael gyda nhw.
Dw i’n meddwl am y bylchau a adawn ni i bobl eraill. Y bylchau sydd yna er mwyn i ddeialog gychwyn. Y gofod ffisegol a adawn pan gamwn o’r neilltu er mwyn gadael i rywun arall basio. Cydweithrediad yw sgwrs, sy’n dibynnu ar y syniad bod pobl yn siarad yn eu tro, yn gadael bylchau ac yn creu gofod i eraill. Dw i’n sylweddoli fy mod wedi bod yn syllu trwy f’adlewyrchiad fy hun am yn rhy hir ac yn gadael i fynd i fy nghyfarfod – er mwyn negodi’r ail drosglwyddiad.